Putting female voices at the heart of Women’s Health Hubs in Wales for Welsh Government | Llywodraeth Cymru, in partnership with OB3 Research
Welsh Government needed to understand women’s experiences of healthcare for issues such as menstruation, contraception, fertility and menopause, their expectations of new ‘Women’s Health Hubs’ and what would build trust in the model.
Welsh Government commissioned OB3 Research, working with Claremont, to undertake a formative evaluation of Women’s Health Hubs in Wales. Our role was to design and facilitate research with women, ensuring lived experience informed the hubs’ development and communications.
We ran 12 online focus groups with 88 women from across Wales, spanning age, background, location and life stage. Sessions combined open discussion with anonymous Mentimeter activities, including word association and ranking exercises. With difficult healthcare experiences being shared, we used trauma-informed, participant-led approaches, enabling women to share only what felt comfortable, adapting as themes emerged, and offering breaks and signposting.
We explored women’s mental models of a ‘hub,’ how past experiences shaped trust, and capability, opportunity and motivation barriers using the COM-B behavioural model. We saw why awareness alone was insufficient – women needed clear access routes, credible expertise and evidence the model would remove barriers.
We revealed a picture of dismissal, delay, gatekeeping and gaps in specialist knowledge. Women felt forced to self-advocate repeatedly, while positive experiences linked to specialists who listened and offered clear guidance and often only after more negative experiences.

The hub model was met with cautious optimism. The women welcomed joined-up, accessible support, but questioned whether change would happen in practice. The findings gave Welsh Government and partners evidence to shape services and communications: explain the hub simply, specify its offer, set out access routes step by step, use trusted messengers and be honest about limitations. This provided a stronger foundation for building trust and supporting uptake.
Rhoi lleisiau menywod wrth galon Hybiau Iechyd Menywod yng Nghymru
Roedd angen i Lywodraeth Cymru ddeall profiadau menywod o ofal iechyd ar gyfer materion fel mislif, atal cenhedlu, ffrwythlondeb a’r menopos, ynghyd â’u disgwyliadau o Hybiau Iechyd Menywod newydd a’r hyn fyddai’n meithrin ymddiriedaeth yn y model.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ymchwil OB3, mewn cydweithrediad â Claremont, i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o Hybiau Iechyd Menywod yng Nghymru. Ein rôl oedd dylunio a hwyluso ymchwil gyda menywod gan sicrhau bod profiadau byw yn llywio datblygiad a chyfathrebu.
Cynhaliwyd 12 grŵp ffocws ar-lein gyda 88 o fenywod o bob cwr o Gymru, ar draws ystod oedran, cefndir, lleoliad a chyfnod bywyd. Cyfunodd y sesiynau drafodaeth agored gyda gweithgareddau Mentimeter, gan gynnwys cysylltu geiriau ac ymarferion graddio. Gyda phrofiadau gofal iechyd sensitif ac anodd yn cael eu rhannu, defnyddiwyd dulliau a oedd yn seiliedig ar drawma oedd wedi’i lywio gan gyfranogwyr. Roedd hyn yn galluogi menywod i rannu dim ond yr hyn oedd yn teimlo’n gyfforddus, addasu’r drafodaeth wrth i themâu newydd ddod i’r amlwg, a chynnig seibiannau neu gyfeirio at gymorth pellach pan oedd angen.
Archwiliwyd modelau meddyliol menywod o’r cysyniad o ‘hwb’, y ffordd yr oedd profiadau blaenorol yn siapio ymddiriedaeth, a’r rhwystrau o ran gallu, cyfle a chymhelliant gan ddefnyddio model ymddygiadol COM-B. Dangosodd y gwaith nad oedd codi ymwybyddiaeth ynddo’i hun yn ddigon – roedd angen llwybrau mynediad clir, arbenigedd credadwy a thystiolaeth ar fenywod y byddai’r model yn dileu rhwystrau.
Datgelodd yr ymchwil ddarlun o oedi, teimladau o gael eu hanwybyddu, rhwystrau i fynediad, a bylchau mewn gwybodaeth arbenigol. Teimlai menywod fod yn rhaid iddynt eirioli drostynt eu hunain dro ar ôl tro. Ar y llaw arall, cafwyd profiadau cadarnhaol wrth gael cyswllt gydag arbenigwyr a wrandawodd arnynt ac a gynigiodd arweiniad clir, ond yn aml roedd hyn wedi sawl profiad negyddol blaenorol.
Croesawyd y model â gobaith gofalus. Roedd y syniad o gymorth mwy cydgysylltiedig a hygyrch yn apelio at fenywod, ond codwyd cwestiynau ynghylch a fyddai’r newid yn digwydd yn ymarferol. Rhoddodd y canfyddiadau dystiolaeth i Lywodraeth Cymru aphartneriaid lunio gwasanaethau a chyfathrebu mwy effeithiol: esbonio rôl yr hybiau yn glir, amlinellu’r cynnig, dangos llwybrau mynediad cam wrth gam, defnyddio lleisiau dibynadwy, a bod yn onest ynghylch cyfyngiadau’r model. Yn ei dro, roedd hyn yn helpu gosod sylfaen gryfach ar gyfer meithrin ymddiriedaeth a chefnogi’r broses o fabwysiadu’r gwasanaeth.